搜索
热搜: music
门户 Culture Language view content

Arabeg

2015-6-28 00:13| view publisher: amanda| views: 4357| wiki(57883.com) 0 : 0

description: Iaith Semitaidd yw'r ArabegListeni/ˈærəbɪk/ (العَرَبِيةُ a gafodd ei hystyried fel yr Arabeg Glasurol yn y 6ed ganrif. Ysgrifennir ieithoedd Semitaidd (heblaw Malteg) o'r dde i'r chwith ...
Iaith Semitaidd yw'r ArabegListeni/ˈærəbɪk/ (العَرَبِيةُ a gafodd ei hystyried fel yr Arabeg Glasurol yn y 6ed ganrif. Ysgrifennir ieithoedd Semitaidd (heblaw Malteg) o'r dde i'r chwith. Arabeg yw iaith y Coran, llyfr sanctaidd y Mwslimiaid. Caiff ei siarad ar draws Gogledd Affrica a'r Dwyrain Canol hyd at Irac ac ynysoedd y Maldif a hi yw chweched iaith y byd yn nhermau nifer ei siaradwyr os ystyriwn hi fel un iaith yn hytrach na chasgliad o dafodieithoedd.[2]

Hewddiw, yr unig ffurf safonol o Arabeg yw 'Arabeg Modern Safonol a elwir weithiau'n 'Arabeg Lenyddol'.[3]

Mae'r geiriau Cymraeg alcali, alcemeg, alcof, alcohol, algebra, candi, lemon, sebon a soffa yn dod o'r Arabeg.
Ymadroddion Cyffredin

Trawsgrifiad Arabeg yn yr wyddor Ladin.

    عربية : Arabiyya : Arabeg

    ويلزي : wailzi : Cymraeg

    لغة بلاد الغال : lwghat bilâd 'al-ghâl : Iaith Cymru

    إنكليزي : 'inglizi : Saesneg

     ! مرحبا : marHaban! : Helo!

     ! لا بأس : la ba's! : Ddim yn ddrwg! ("la ba's?" yw'r ffordd arferol o ddweud "Helo!" neu "Shwmae!" yn anffurfiol. Atebir gyda "la ba's!".)

     ! (عليكم)السلام : 'as-salam (Alaicwm)! : Heddwch (arnoch chi)!

     ! وعليكم السلام : wa Alaicwm, 'as-salam! : Ac i chwithau, heddwch!

    كيف الحال : caiff 'al-hâl? : Sut mae?

     ! بخير، الحمد لله : bi-chair, 'al-Hamdw-li-lah! : Yn dda, diolch i Dduw!

     ! صباح الخير : SabaH 'al-chair! : Bore/P'nawn da!

     ! مساء الخير : masa' 'al-chair! : Noswaith dda!

     ! أهلا وسهلا : 'ahlân wa-sahlân! : Croeso!

     ! تصبح على خير : tySbiH Alâ chair! : Nos da!

     ! ليلة سعيدة : laila sAida! : Nos da!

     ! مع السلامة : mA-s-salama! : Da boch chi!

     ! إلى اللقاء : 'ilâ-l-iga'! : Hwyl fawr!

     ! سلام : salam! : Heddwch! ( "salam!" yw'r ffordd arferol o ddweud "Hwyl (fawr)!". Gellir defnyddio "salam!" i ddweud "Helo!" hefyd.

     ! عفوا : Affwân! : Esgusodwch fi! / Da chi!

     ! من فضلك : min ffaDlac! : Os gwelwch chi'n dda!

     ! (جزيلا) شكرا : shwcran (jazîlan)! : Diolch (yn fawr)!

     ! لا، شكرا : la' shwcran : Dim diolch

     ! آسف : 'asiff! : mae'n flin gen i!

    نعم : nAm : ïe / do / oes, etc.

    ﻻ : la' : nage / naddo / nag oes, etc.

     ! بصحتك : bi-SiHat-ac! : Iechyd da!

     ! الحمد لله : 'al-Hamdw-li-lah! : Diolch i Dduw!

     ! إن شاء الله : 'in sha'-l-lah! : Os bydd Duw yn gytun! / Yn obeithiol!

up one:Türkçenext:Arabeg Oman

About us|Jobs|Help|Disclaimer|Advertising services|Contact us|Sign in|Website map|Search|

GMT+8, 2015-9-11 20:13 , Processed in 0.156799 second(s), 16 queries .

57883.com service for you! X3.1

返回顶部